Terfysg Tottenham ddechrau'r wythnos
Mae merch 11 oed wedi cael cerydd gan yr heddlu wedi iddi annog terfysg ar dudalen Facebook o’r enw ‘Plymouth Riot Save Are England from the Government’ (sic).

Dywedodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw bod eu heddweision wedi ymweld â chartref y ferch ac wedi siarad â hi ynglŷn â thudalen a ymddangosodd ar y rhwydwaith gymdeithasol, yn galw ar bobol i ddod allan i’r strydoedd yn Plymouth wrth i’r terfysg ledu trwy Brydain.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, cafodd y ferch “air o gyngor gan yr heddlu ynglŷn â sylwadau ar y wefan gymdeithasol”.

Ychwanegodd bod yr heddlu “yn dal i fonitro gwefannau cymdeithasol ac yn bwriadu gweithredu lle bo hynny’n briodol er mwyn delio ag anhrefn posib”.

Hefyd mae’r heddlu wedi bod yn gweld un dyn 20 oed o Torquay a thri dyn yn eu hugeiniau o Newquay, a’r pedwar wedi “derbyn gair o gyngor yn ymwneud â sylwadau a adawyd ar y wefan”.

Mae’r heddlu’n mynnu nad oes “unrhyw derfysg wedi ei achosi gan y sylwadau hyn”.

Enw’r dudalen ar Facebook oedd ‘Plymouth Riot Save Are England from the Government’ (sic), ac roedd wedi ei gofrestru’n ‘ddigwyddiad’ ar y wefan, gyda gwahoddiad i fwy na 400 o bobol gymryd rhan mewn terfysg tu allan i siop Poundland yng nghanol dinas Plymouth ddydd Mawrth.

Ond tra bo llond dwrn o bobol, gan gynnwys Heddlu Dyfnaint a Chernyw, wedi derbyn y gwahoddiad ar-lein, wnaeth neb droi fyny tu allan i’r siop ddydd Mawrth.

Mae’r dudalen Facebook bellach wedi ei thynnu lawr.