David Cameron
Mae David Cameron wedi addo gwneud “beth bynnag sydd ei angen” er mwyn sicrhau fod y strydoedd yn saff ar ôl pedair noson o derfysg ar strydoedd dinasoedd Lloegr.
Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin, dywedodd y Prif Weinidog y dylai unrhyw un sy’n euog o gymryd rhan yn y terfysgoedd wynebu carchar.
Dywedodd fod y Llywodraeth yn gobeithio cyflwyno pwerau dedfrydu newydd, a dywedodd y byddai miloedd o swyddogion ychwanegol ar strydoedd Llundain dros y penwythnos.
“Dydyn ni ddim yn mynd i stumogi hyn yn y wlad yma,” meddai. “Dydyn ni ddim yn mynd i ganiatáu i ddiwylliant o ofn fodoli ar ein strydoedd ac fe wnawn ni beth bynnag sydd ei angen er mwyn adfer cyfraith a threfn ac ailadeiladu ein cymunedau.”
Dywedodd y byddai’r heddlu yn cael grymoedd newydd i orfodi troseddwyr honedig i dynnu eu mygydau.
Roedden nhw’n cydweithio â’r heddlu a’r gwasanaethau cudd-wybodaeth er mwyn gweld a oedd yn bosib atal pobol rhag cynllunio terfysg drwy wefannau rhwydweithio cymdeithasol.
Ychwanegodd nad oedd eisiau troi cefn ar y “model Prydeinig” o heddlua’r strydoedd ond ei fod yn ystyried a allai’r fyddin gymryd rhai o ddyletswyddau’r heddlu ar adegau fel rhain.
“Does dim byd wedi ei ddiystyru. Rydyn ni’n ystyried popeth,” meddai.
Daw sylwadau David Cameron wrth i Heddlu’r Met ddweud eu bod nhw bellach wedi arestio cyfanswm o 922 o bobol mewn cysylltiad â’r thrais a lladrata.
Dywedodd llefarydd fod 401 wedi eu cyhuddo.
Mae deiseb ar-lein sy’n galw am ddiddymu budd-daliadau pawb oedd yn rhan o derfysgoedd Llundain yn agosáu at 100,000 o lofnodion.
Bydd unrhyw ddeiseb sy’n denu 100,000 o lofnodion yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin.