Terfysg Llundain (Lewis Whyld/PA Wire)
Mae Amazon wedi rhoi’r gorau i werthu pastynau ar eu gwefan yn dilyn y terfysg ar strydoedd dinasoedd Llundain dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd y cwmni fod pastynau, batiau pêl fas ac eitemau arall allai gael eu defnyddio fel arfau wedi bod yn gwerthu’n dda iawn, wrth i bobol geisio sicrhau eu bod nhw’n saff yn eu cartrefi.

Cynyddodd gwerthiant un math o bastwn alwminiwm 50,000% o fewn 24 awr, gan gyrraedd y 10 eitem oedd yn gwerthu orau dan y categori chwaraeon.

Cafodd dau bastwn arall eu tynnu o’r wefan ar ôl i werthiant gynyddu 400 gwaith dros nos.

Mae Amazon.co.uk yn gwerthu ambell i eitem y mae’n anghyfreithiol i’w cario ar y stryd ond ddim yn anghyfreithiol i’w gwerthu, gan gynnwys ffyn sy’n clymu at gylch allweddi.

Dywedodd Stella Creasy, Aelod Seneddol etholaeth Walthamstow yn Llundain, a gafodd ei effeithio gan y terfysg nos Lun, na ddylai pobol ddefnyddio arfau er mwyn amddiffyn eu hunain rhag lladron ar y strydoedd.

“Does yna ddim byd yn bod â chymryd gofal, bod yn bresennol ar y strydoedd a helpu’r heddlu,” meddai wrth bapur newydd y Guardian.

“Ond mae defnyddio arfau yn croesi’r llinell. Mae hynny yn cynyddu’r ofn mewn cymdeithas.

“Dyw pobol yn crwydro’r strydoedd â batiau pêl fas ddim yn mynd i helpu pethau, felly peidiwch â mynd ar Amazon i’w prynu nhw.”