Cyhoeddwyd heddiw fod maes awyr mwyaf Ynysoedd Prydain, Heathrow, wedi cael ei ddiwrnod prysuraf erioed ym mis Gorffennaf.

Dywedodd rheolwyr y maes awyr, BAA, fod 6.9 miliwn o deithwyr wedi mynd drwy Heathrow fis diwethaf – cynnydd o 2.5% ar fis Gorffennaf 2010.

Dydd Sul 31 Gorffennaf oedd y diwrnod prysuraf yn hanes y maes awyr, medden nhw.

Roedd y chwe maes awyr sy’n eiddo i BAA wedi gorfod ymdopi â 11 miliwn o deithwyr ym mis Gorffennaf – cynnydd o 0.8% ar yr un mis y llynedd.

Syrthiodd nifer y cwsmeriaid oedd yn teithio o fewn Ynysoedd Prydain 7.2%, ond roedd cynnydd o 5.6% mewn teithwyr yn ôl ac ymlaen i Ogledd America.

“Mae’r cynnydd yn nifer y teithwyr yn Heathrow yn newyddion da i swyddi, twristiaeth a thwf economi Prydain,” meddai prif weithredwr BAA, Colin Matthews.

“Mae gan Heathrow rhan bwysig i’w chwarae wrth gysylltu Prydain â’r economïau sy’n tyfu ar draws y byd ac mae’n hanfodol er mwyn adferiad economaidd y wlad.”

Dywedodd maes awyr Gatwick, sydd bellach yn eiddo i gwmni o’r Unol Daleithiau, eu bod nhw wedi ymdopi â 3.63 miliwn o gwsmeriaid y mis diwethaf – cynnydd 5.9% ar yr un mis yn 2010.