Dyw’r canran uchaf erioed o gwsmeriaid Prydain ddim yn teimlo fod ganddyn nhw unrhyw arian parod dros ben i’w wario ar bethau dydd ddim yn angenrheidiol, yn ôl arolwg newydd.

Roedd 32% o’r rheini a holwyd yn teimlo nad oedd ganddyn nhw unrhyw arian dros ben wrth iddyn nhw ymdopi ag economi marwaidd a biliau tanwydd uwch.

Dywedodd 71% eu bod nhw wedi newid eu harferion siopa ac roedd 65% yn prynu bwyd rhatach er mwyn arbed arian.

Mae arbenigwyr yn disgwyl hwb i hyder cwsmeriaid o ganlyniad i Gemau Olympaidd 2012 y flwyddyn nesaf, ond nes hynny fe fydd eu hwyliau’n isel, medden nhw.

Roedd gynnydd bach mewn hyder ymysg siopwyr ers y chwarter diwethaf, yn ôl Arolwg Hyder Cwsmeriaid y Consortiwm Manwerthu Prydeinig.

Ond mae hyder cwsmeriaid yn parhau yn is nag yr oedd y llynedd. Dim ond 19% o’t boblogaeth sy’n hyderus eu bod nhw’n mynd i gadw eu swyddi, o’i gymharu â 16% yn y chwarter cyntaf eleni.

Ond roedd 73% yn teimlo’n besimistaidd ynglŷn â’u dyfodol yn eu swyddi.

Roedd 35% yn hyderus fod ganddyn nhw ddigon o arian, cynnydd o’r 29% oedd yn dweud hynny yn y chwarter cyntaf, ond roedd 60% yn parhau’n ddigalon.

“Mae’r wasgfa ar incwm personol yn tynhau,” meddai Stephen Robertson, cyfarwyddwr cyffredinol y Consortiwm Manwerthu Prydeinig.

“Mae traean o’r bobol bellach yn dweud nad oes ganddyn nhw arian wrth gefn, sy’n record newydd.

“Gwendid yn yr economi a biliau tanwydd a bwyd sy’n pryderu cwsmeriaid.

“Hyd yn oed ar ôl talu am bethau sy’n hanfodol, mae cartrefi sydd ag arian wrth gefn yn ei ddefnyddio i dalu dyledion yn hytrach na’i wario ar y stryd fawr.

“Mae cwsmeriaid wedi mynd yn fwy darbodus, â 65% yn dweud eu bod nhw wedi newid i gynnyrch rhatach er mwyn gallu talu amdanynt.

“Mae’r cynnydd bach yn hyder cwsmeriaid yn galonogol, ond ni fydd manwerthwyr yn disgwyl gallu cymryd mantais o hynny am gyfnod eto.

“Mae’n annhebygol y gwelwn ni gynnydd mawr yn hyder cwsmeriaid nes bod arwyddion pendant fod economi Prydain wedi dechrau tyfu go iawn.”

Dywedodd Chris Morley, prif weithredwr Nielsen, nad oedd yn disgwyl gweld pethau’n gwella yn y dyfodol agos.

“Rydyn ni’n disgwyl y bydd y Gemau Olympaidd yn cael effaith,” meddai. “Ond mae chwyddiant yn uwch na’r cynnydd mewn cyflogau, argyfwng ariannol ym mharth yr ewro, a chynnydd mawr arall ym mhris biliau nwy a thrydan, felly mae’n anodd gweld hynny’n parhau yn hir iawn.”