Heddlu Gogledd Cymru ar Regent's Street Llundain
Mae miloedd o heddlu a glaw trwm wedi atal pumed noson o derfysg yn Lloegr dros nos.
Heddiw fe fydd gwleidyddion Tŷ’r Cyffredin yn dychwelyd o’u gwyliau er mwyn trafod y digwyddiadau sydd wedi achosi difrod ar draws y wlad a gadael tri dyn yn farw.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, ei fod yn bwriadu taro’n ôl yn erbyn y bobol sydd wedi achosi gwerth degau o filiynau o bunnoedd o ddifrod ym mhob cwr o’r wlad.
Mae disgwyl iddo amlinellu cynlluniau pellach er mwyn mynd i’r afael â’r bobol oedd yn gyfrifol am y terfysg, wrth siarad yn Senedd San Steffan heddiw.
Fe fydd hefyd yn trafod cynllun er mwyn rhoi iawndal i fusnesau sydd wedi eu difrodi gan y terfysgoedd.
Bore ma fe fydd yn cadeirio cyfarfod arall o bwyllgor Cobra’r llywodraeth a thrafod y terfysg ag aelodau eraill o’i Gabinet.
Llysoedd ynadon
Roedd y terfysg rhwng nos Sadwrn a Mawrth wedi lledu o Lundain i ddinasoedd eraill gan gynnwys Manceinion, Birmingham, Lerpwl a Bryste.
Yn Birmingham cafodd tri dyn – Haroon Jahan, 21, a’r brodyr Shazad Ali, 30, a Abdul Musavir, 31 – eu lladd ar ôl cael eu taro gan gar wrth geisio amddiffyn siopau yn Winson Green yn ystod oriau mân y bore ddoe.
Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn holi dyn 32 oed ar amheuaeth o lofruddio.
Daw’r marwolaethau wedi i ddyn 26 oed gael ei saethu mewn car yn ystod terfysg yn Croydon, de Llundain, ar nos Lun.
Dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf eu bod nhw wedi arestio 145 o bobol – gan gynnwys llanc 18 oed sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o roi siop Miss Selfridge ar dân.
Mae Scotland Yard yn dweud eu bod nhw wedi arestio 820 o bobol ac wedi cyhuddo 279 hyd yn hyn.
Mae llysoedd ynadon San Steffan, Manceinion a Solihull wedi bod yn gweithio drwy’r nos er mwyn prosesu’r cannoedd sydd wedi eu cyhuddo o gymryd rhan yn y terfysg.