Mae gobaith y bydd cawodydd trwm dros nos yn rhoi taw ar y terfysgoedd sydd wedi cydio yn rai o ddinasoedd Lloegr.
Roedd heddwch ar strydoedd Llundain dros nos wrth i 16,000 o heddweision grwydro’r strydoedd, ond roedd trafferthion ym Manceinion, Bryste a rhai dinasoedd eraill.
“Fe ddylen ni fod yn gweddïo am law trwm, a dweud y gwir,” meddai Brian Coleman, arweinydd Awdurdod Cynllunio Brys Llundain.
“Rydw i’n credu y byddai hynny yn cadw llawer iawn o’r bobol ifanc yma yn eu cartrefi.”
Mae disgwyl glaw yng ngogledd Llundain tua 8pm heddiw, er y bydd rhannau deheuol o’r brifddinas yn aros yn sych.
Ond mae disgwyl i Fanceinion a Lerpwl gael socad, medden nhw.
“Fe fydd yna wlyb iawn a bydd yna wyntoedd cryf,” meddai un o broffwydi tywydd MeteoGroup.”
Mae disgwyl glaw yng nghanolbarth Lloegr hefyd, nes tua 10pm pan fydd yn atal am sawl awr.
Fe fydd yna law trwm yng nghanolbarth a gogledd Cymru dros nos ond bydd y de yn sych ar y cyfan.