Mervyn King
Ni fydd economi Prydain yn tyfu mor gyflym ag yr oedd Banc Lloegr wedi ei ragweld yn gynharach eleni, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd y Banc heddiw eu bod nhw’n disgwyl i economi’r wlad dyfu tua 1.4% yn 2011, ar ôl dweud ym mis Mai y byddai yn tyfu 1.8%.

Bydd twf yn araf nes 2014 cyn dychwelyd i’r lefel arferol, medden nhw.

Rhybuddiodd y Banc y bydd y wasgfa ar gwsmeriaid yn parhau am y tro a bod siawns da y bydd chwyddiant yn cyrraedd 5% yn ystod y misoedd nesaf.

Beiodd llywodraethwr y banc, Syr Mervyn King, yr argyfwng ariannol ym mharth yr ewro a pholisi ariannol yr Unol Daleithiau am broblemau’r farchnad.

“Mae’r gobaith am dwf ariannol yn economi’r byd wedi dirywio ac, o ganlyniad i hynny, mae’r gobaith am dwf yn economi Prydain rywfaint yn wannach,” meddai.

Dywedodd fod y tsunami yn Japan a chynnydd ym mhris olew hefyd wedi rhoi cnoc i’r economi a rhybuddiodd y bydd y cyfnod marwaidd yn parhau’n hirach.

Ychwanegodd y bydd gan yr argyfwng dyled ym mharth yr ewro effaith sylweddol ar economi Ynysoedd Prydain.

“Mae’r grymoedd sy’n dal yr economi yn ôl yn cryfhau bob dydd,” meddai. “Y mwyaf ohonyn nhw yw’r ddyled breifat a chyhoeddus.

“Nid 2008 oedd diwedd yr argyfwng. Roedd yn un rhan o’r argyfwng, y rhan cyntaf, ac rydyn ni bellach yn mynd drwy’r ail ran, cyn dod at y terfyn.”

Dywedodd economegwyr fod yr adroddiad fel pe bai’n cadarnhau disgwyliadau y bydd cyfraddau llog yn parhau’n isel am gyfnod hir.

“Mae hyd yn oed amcangyfrif gostyngedig Band Lloegr yn ymddangos yn reit obeithiol i ni,” meddai Vicky Redwood, economegydd â Capital Economics.

“Dydyn ni ddim yn credu y bydd cadw cyfraddau llog yn isel yn ddigonol ac y bydd angen argraffu rhagor o arian.”