Bydd canon dŵr ar gael o fewn 24 awr er mwyn mynd i’r afael â’r terfysg yn Lloegr, meddai’r Prif Weinidog, David Cameron, heddiw.

Dywedodd fod taflu popeth at y broblem neithiwr wedi llwyddo i gadw’r strydoedd yn glir yn Llundain, er bod y broblem wedi lledu i Fanceinion a Birmingham.

Ychwanegodd fod yr heddlu bellach yn defnyddio delweddau camerâu cylch cyfyng er mwyn adnabod y rheini sy’n cael eu drwgdybio o ymuno yn y terfysg.

Mae 750 o bobol wedi eu harestio ers dydd Sadwrn, a 160 wedi eu cyhuddo, meddai.

Dywedodd fod y canon dŵr yn disgwyl wrth gefn ac y byddai modd ei ddefnyddio nos yfory os nad yw pethau’n gwella heno ma.

Daw sylwadau David Cameron ar ôl i Boris Johnson, Maer Llundain, ddweud nad oedd yn cytuno â pholisi’r llywodraeth o dorri cyllid heddluoedd Prydain.

Ond dywedodd David Cameron fod penaethiaid yr heddlu wedi eu sicrhau heddiw fod ganddyn nhw’r adnoddau er mwyn mynd i’r afael â’r terfysg.

“Dydyn ni ddim ân unrhyw beth fydd yn lleihau nifer yr heddlu sy’n weledol ar y stryd,” meddai.

“Roedd angen i ni frwydro’n ôl ac mae hynny wedi digwydd. Llun wrth lun, mae’r troseddwyr yn cael eu hadnabod.

“Rydyn ni wedi gweld Prydain ar ei waethaf – ond rydw i’n credu ein bod ni hefyd wedi gweld Prydain ar ei orau.

“Mae miliynau o bobol wedi arwyddo ar Facebook i gefnogi’r heddlu, a dod at ei gilydd i lanhau’r llanast.”