Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i lofruddiaeth tri dyn ynghanol terfysg Birmingham, ddoe.

Cafodd tri dyn eu lladd o ganlyniad i wrthdrawiad car, meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Roedd y dynion ar droed pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Winson Green y ddinas am 1am, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd yr heddlu fod un dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r marwolaethau a’u bod nhw wedi meddiannu car.

Dyw hi ddim yn amlwg eto a oes cysylltiad rhnwg y marwolaethau a’r terfysg yn yr ardal dros nos.

Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans bod tyrfa o tua 80 o bobol yno pan gyrhaeddodd y parafeddygon.

Fe fu farw dau o’r dynion yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty, ac fe fu farw’n dyn arall o’i anafiadau yn ddiweddarach.