Heddlu Gogledd Cymru ar Regent's Street Llundain
Cafodd cannoedd o bobol eu harestio wrth i’r terfysg gwaethaf mewn cenhedlaeth ledu o Lundain i ddinasoedd ym mhob cwr o Loegr.

Roedd prifddinas y wlad yn dawel ar y cyfan ar ôl tair noson yn olynol o derfysg, wrth i 16,000 o heddlu warchod y strydoedd.

Cafodd 81 o bobol yno – gan ddod a’r cyfanswm y mae Heddlu’r Met wedi ei arestio er dechrau’r trais ar nos Sadwrn i 768.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru (uchod) a Heddlu De Cymru wedi anfon swyddogion a cerbydau er mwyn helpu i warchod y strydoedd.

Ond er fod tawelwch yn Llundain roedd terfysg, lladrata a thrais ym Manceinion, Nottingham a Birmingham dros nos.

Roedd hefyd rywfaint o drais i’w weld yn Lerpwl, Salford, West Bromwich, Wolverhampton, Bryste a Chaerloyw.

Fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cadeirio un arall o gyfarfodydd brys pwyllgor Cobra bore ma er mwyn trafod yr aflonyddwch.

Bydd Senedd San Steffan yn cael ai alw yn ôl am ddiwrnod dydd Iau er mwyn trafod eu hymateb.

‘Cywilydd’

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Manceinion Fwyaf fod troseddwyr wedi “codi cywilydd ar Salford a Manceinion”.

Arestiodd yr heddlu 47 o bobol wrth i bobol ifanc mewn hwdis a masgiau ymosod ar siopau, malurio ffenestri a dechrau tanau.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr eu bod nhw wedi arestio 109 o bobol yn Birmingham, Wolverhampton a West Bromwich.

Yn Nottingham ymosodwyd ar un o swyddfeydd yr heddlu ac fe gafodd mwy na 90 o bobol eu harestio, ac yng Nghaerlŷr arestiwyd 13 o bobol.

Dywedodd heddlu Caerloyw eu bod nhw wedi arestio tri o bobol a bod tân mawr wedi ei ddechrau yn ardal Brunswick.

Arestiwyd 19 ym Mryste a 35 yn ardal Toxteth, Lerpwl, meddai’r heddluoedd yno.