Mae arweinwyr undebau wedi ymateb â dicter heddiw i’r “newyddion erchyll” y bydd banc Lloyds yn torri 1,300 o swyddi.

Dywedodd undeb Accord fod y banc wedi torri 30,000 o swyddi ym Mhrydain ers 2009.

“Mae Accord wedi dweud wrth Lloyds y dylen nhw wneud popeth o fewn eu gallu i osgoi torri swyddi gorfodol a gweithio er mwyn darparu cefnogaeth ar gyfer yr rheini sydd wedi eu heffeithio,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Ged Nichols.

Dywedodd David Fleming, swyddog cenedlaethol undeb Unite, fod y penderfyniad diweddaraf “yn syndod”.

“Mae Unite yn galw ar Lloyds i roi’r gorau i gyflogi gweithwyr dros dro wrth wneud miloedd o gyflogwyr parhaol yn ddi-waith.

“Mae’n fodd erchyll o weithredu ac fe ddylai Lloyds fod yn ail-hyfforddi ei weithlu presennol er mwyn lleihau effaith eu cynlluniau i ail-strwythuro.”