Heddlu Llundain
Mae dyn 26 oed gafodd ei saethu mewn car yn Croydon neithiwr wedi marw yn yr ysbyty, meddai Scotland Yard.
Daw hyn wedi i arbenigwyr ddweud fod y terfysg ar strydoedd prifddinas Lloegr a rhai dinasoedd eraill wedi achosi gwerth “degau o filiynau o bunnoedd” o ddifrod.
Daw’r rhybudd gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain wrth i’r difrod gael ei lanhau cyn noson arall o derfysg.
Mae disgwyl rhagor o frwydrau ar y strydoedd heno ac mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y bydd 16,000 o heddlu yn ceisio atal y terfysg.
Mae Heddlu De Cymru wedi anfon 54 o swyddogion i helpu a Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi anfon rhai swyddogion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n ystyried anfon swyddogion i Lundain os oedd eu hangen nhw.
Mae yna son y gallai canonau dwr yn cael eu defnyddio – ond dim ond chwech sydd ar gael a’r rheini yng Ngogledd Iwerddon.