Difrod yn Tottenham (PA)
Gallai defnyddwyr Twitter gael eu cosbi am annog trais yn dilyn dwy noson o anrhefn yn Llundain, rhybuddiodd Scotland Yard heddiw.

Mae’r Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Stephen Kavanagh wedi cadarnhau y bydd swyddogion yn cadw llygad ar y wefan fel rhan o’u gwaith wrth ymchwilio i’r terfysg a’r tor-cyfraith yn ardal Tottenham ers dydd Sadwrn.

Mae’r Comisiynydd Gweithredol Tim Godwin wedi addo ymateb cadarn i’r terfysg sydd wedi ei weld ar rai o strydoedd Llundain.

Mae’r troseddu yn cynnwys rhoi cerbydau ac adeiladau ar dân a lladron yn dwyn nwyddau o siopau.

Daw’r cyhoeddiad wrth i‘r heddlu eu hunain gael eu beirniadu – mae rhai wedi dweud y dylen nhw fod wedi gwneud mwy i atal y trwbl rhag dechrau.

Ond mynnodd Tim Godwin ei fod yn falch iawn o heddweision Scotland Yard.

Roedd yn canmol “dewrder” y swyddogion sydd wedi cael eu hanafu wrth geisio rheoli’r gwrthdaro yn y ddinas.