Mae merch a gafodd ei chladdu’n fyw wrth gloddio twll mewn tywod wedi diolch i’r bobol a achubodd ei bywyd.

Cafodd Paige Anderson, 15, ei caethiwo dan bum troedfedd o dywod am 15 munud ar ôl i’r twll ddisgyn i mewn arni yn Caister, yn Swydd Norfolk, ddydd Gwener.

Bu parafeddygon, yr heddlu, gwylwyr y glannau a’r cyhoedd yn helpu i’w tyllu hi allan. Pan gafodd Paige ei thynnu’n rhydd o’r tywod doedd hi ddim yn anadlu.

24 awr yn ddiweddarach, cafodd ei rhyddhau o Ysbyty Prifysgol James Paget yn Gorleston.

Dywedodd wrth bapur lleol yr Eastern Daily Press ei bod hi’n “iawn – ond mewn sioc”.

“Dwi’n methu cofio beth ddigwyddodd yn iawn. Dwi’n cofio plygu lawr i fynd drwy’r twnnel, ac wedyn fe aeth popeth yn ddu.”

Dywedodd ei thad, oedd ar y traeth ar y pryd, ei fod wedi cynnig ei chodi allan o’r twll ond ei fod yn rhy ddwfn. “Felly dywedodd hi y byddai’n gwneud grisiau,” meddai.

“Fe droeais i rownd i siarad â ’mhlentyn ieuengaf ond pan edrychais i yn ôl, roedd yr ochrau yn disgyn i mewn. Ac wedyn roedd hi wedi mynd. Mae’r gweddill yn ddryswch llwyr,” meddai.

“Ond mae’r profiad wedi adfer fy ffydd mewn pobol. Dwi methu diolch digon iddyn nhw.”

Yr ail mewn wythnos

Daw’r ddamwain llai na deuddydd wedi i lanc o Galiffornia gyrraedd y penawdau pan ddisgynnodd tywod i mewn i’r twll pum troedfedd yr oedd wedi ei gloddio ar draeth Casnewydd y dalaith.

Roedd Matt Mina, 17, yn gaeth yn y tywod am hanner awr wrth i barafeddygon, gwylwyr y glannau ac aelodau’r cyhoedd balu i’w dynnu o’r twll.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn fuan wedi ei dynnu o’r twll, ond cafodd ei ryddhau ar ôl teirawr.