Mae rhwydwaith traffyrdd Prydain ymysg y gwaethaf yn Ewrop, yn ôl arolwg newydd.

Mae ffyrdd y wlad yn “annigonol” er mwyn ateb anghenion gyrrwyr ac fe fydd pethau’n gwaethygu dros y blynyddoedd nesaf, yn ôl adroddiad Cynghrair Defnyddwyr y Ffyrdd.

“Mae system drafnidiaeth Prydain yn methu,” meddai cyfarwyddwr y gynghrair, Tim Green.

“Mae defnyddwyr y ffyrdd yn talu £48 biliwn bob blwyddyn i’r trysorlys, ond dim ond £4.8 biliwn sy’n cael ei wario ar wella’r ffyrdd a £5 biliwn ar eu cynnal.

“Mae gyrwyr wedi derbyn yr annhegwch yma ers blynyddoedd – ond am ba hyd?”

Yn ôl adroddiad y gynghrair, sy’n seiliedig ar ffigyrau a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2010:

Mae gan Brydain 3,670km o draffyrdd o’i gymharu â 13,014km yn yr Eidal, 12,594km yn yr Almaen, a 10,958km yn Ffrainc.

Rhwng 1999 a 2009 roedd gynnydd o 21% yn nifer y ceir ar y ffyrdd ond tyfodd y rhwydwaith priffyrdd 1% yn unig.

Mae 12 gwaith cymaint o bobol yn defnyddio’r ffyrdd na’r rheilffyrdd, ond mae’r ffyrdd yn derbyn 15 gwaith yn llai o fuddsoddiad fesul milltir.

Mae 91% o deithwyr Prydain yn gwneud hynny ar y ffyrdd ac mae 18 gwaith mwy o nwyddau yn cael eu cludo ar y ffyrdd nag ar y rheilffyrdd.

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan, Norman Baker, nad oedd “yn derbyn am eiliad beirniadaeth Cynghrair Defnyddwyr y Ffyrdd”.

“Rydyn ni’n bwriadu buddsoddi £4 biliwn ar yr Asiantaeth Traffyrdd yn ystod cyfnod yr adolygiad gwario nesaf,” meddai.

“Yn ogystal â hynny rydyn ni’n darparu £3 biliwn ar gyfer cynghorau [yn Lloegr] i’w gwario ar gynnal y ffyrdd dros y pedair blynedd nesaf.”