Mae teulu llanc gafodd ei ladd gan arth wen ar wyliau antur yn Norwy wedi talu teyrnged iddo heddiw.

Fe fu farw Horatio Chapple, 17, ddydd Gwener ar ôl i’r arth ymosod ar grŵp oedd ar alltaith wedi ei drefnu gan Gymdeithas Fforio Ysgolion Prydain.

Dywedodd ei berthnasau mewn datganiad ei fod wedi “edrych ymlaen at fod yn ddoctor” ac roedden nhw’n clodfori “ei synnwyr digrifwch a’i allu i chwerthin am ei ben ei hun”.

Cafodd pedwar aelod arall o grŵp Horatio Chapple eu hanafu yn y ddamwain ac maen nhw yn dod at eu hunain mewn ysbyty yn Norwy.

Dywedodd teulu’n llanc fu farw ei fod “ar fin troi yn ddyn ac roedd ganddo weledigaeth bendant ynglŷn â’r cyfeiriad yr oedd ei fywyd yn mynd ynddo”.

Mae Coleg Eton ble’r oedd Horatio Chapple yn ddisgybl hefyd wedi cyhoeddi datganiad gan ddweud fod ei farwolaeth wedi tristau pawb oedd yn ei nabod yn yr ysgol.

‘Arwr’

Dywedodd tad un o’r dynion eraill a gafodd eu hanafu, Michael “Spike” Reid, 29 oed, fod ei fab wedi dangos dewrder wrth saethu at yr arth wen oedd yn ymosod ar y grŵp.

Roedd wedi bod yn cysgu mewn pabell gerllaw pan ymosododd yr arth ac wedi mynd i helpu, meddai ei dad, Peter Reid, 65, o Plymouth.

Dywedodd nad oedd eisiau defnyddio’r gair “arwr” wrth ddisgrifio ei fab ei hun ond fod gweddill y grŵp yn cytuno ei fod yn ddyn “dewr iawn, iawn”.