Mae disgwyl i’r actor Rowan Atkinson adael yr ysbyty y prynhawn yma yn dilyn damwain car.

Credir bod y dyn sy’n enwog am bortreadu Mr Bean ac Edmund Blackadder wedi niweidio’i ysgwydd wedi i’w gar cyflym fynd i drafferth ar yr A605 yn Haddon, Cambridshire.

Yn ôl adroddiadau roedd Atkinson yn gyrru car cyflym McLaren F1 pan droellodd mewn cylch nifer o weithiau, taro coeden a phostyn lamp cyn mynd ar dân.

Yn ôl y son fe gerddodd yr actor o’r car ac roedd yng nghwmni gyrwyr eraill pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys.