Mae cronfeydd pensiynau a chynilion wedi crebachu eto wrth i werth cyfranddaliadau syrthio.

Gyda thrafferthion marchnadoedd y byd yn mynd o ddrwg i waeth, mae indecs 100 FTSE yn Llundain wedi diodde’ colledion trwm.

Mae buddsoddwyr yn poeni’n arw am ddyledion yng ngwledydd Ewrop a iechyd economi America.

Ddoe daeth cwymp mwya’r flwyddyn yng ngwerth cwmnïau’r FTSE,  a oedd yn werth £50 biliwn yn llai – gan effeithio’n ddifrifol ar gronfeydd pensiwn a chynilion.

Bu cwymp o 4.3% yn y Dow Jones ar Wall Street, un o’r rhai gwaetha’ yn ei hanes.

Roedd y darlun yr un mor ddu yn Asia wrth i Nikkei Japan ostwng 3.7% a Hang Seng Hong Kong syrthio 5%.

Daeth y newyddion gwael yma am werth pensiynau a chynilion wrth i’r ofnau gynyddu y bydd yr Eidal a Sbaen, trydydd a phedwerydd economi fwya’ Ewrop, yn methu â thalu eu dyledion – a gorfod cael help ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd.

 Y banciau sy’ wedi diodde’ waetha’ yn Llundain, gyda’r Royal Bank of Scotland yn cyhoeddi colledion o £794 miliwn ar gyfer hanner cynta’r flwyddyn.

Cwympodd gwerth y Lloyds Bankin Group i thua hanner y pris dalodd Llywodraeth Prydain am ei gyfranddaliadau, a syrthiodd gwerth Barclays 10%.

Bydd y sylw ar America heddiw gyda’r disgwyl bod ffigyrau newydd am ddangos cynnydd yn nifer y di-waith a phrinder swyddi.