Dylai cyn-olygydd y Daily Mirror, Piers Morgan, ddod yn ôl i Brydain i ateb “rhai cwestiynau difrifol iawn” ynghylch honiadau o hacio ffonau, yn ôl cadeirydd Pwyllgor Diwylliant San Steffan.

Dywed yr AS Ceidwadol John Whittingdale y gallai Piers Morgan gael ei holi gan Heddlu Llundain ar sail tystiolaeth ddiweddar.

Ond dywedodd na fyddai’r cyn-olygydd yn cael ei alw ar unwaith gerbron y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, sy’n ymchwilio i hacio ffonau, gan “fod yn rhaid i ymchwiliad yr heddlu gael blaenoriaeth”.

Daw sylwadau’r Aelod Seneddol ar ôl i Heather Mills honni bod newyddiadurwr blaenllaw o grŵp y Mirror wedi cyfaddef hacio negeseuon llais a gafodd eu gadael iddi gan ei chyn-ŵr Syr Paul McCartney. Dywedodd wrth raglen Newsnight i’r newyddiadurwr gyfaddef hyn yn 2001.

Er bod y BBC wedi gwrthod enwi’r newyddiadurwr hwnnw, dywedodd nad oedd Heather Mills yn cyfeirio at Piers Morgan, golygydd y Daily Mirror ar y pryd. Ond mae’n ymddangos mai’r un oedd y neges ffôn ag un y cyfaddefodd Piers Morgan yn ddiweddarach iddo wrando arni.

Mewn datganiad, disgrifiodd Piers Morgan honiadau Heather Mills fel rhai nad oedd wedi cael eu profi.

Mae aelod Torïaidd arall o’r Pwyllgor Diwylliant, Therese Coffey, wedi galw ar Piers Morgan i helpu’r heddlu yn wyneb tystiolaeth newydd “gref iawn”.

“Dw i’n gobeithio y bydd yr heddlu’n edrych ar y dystiolaeth ac os oes ar Mr Morgan eisiau dod yn ôl i Brydain i’w helpu nhw gyda’u hymholiadau – a dw i ddim yn golygu cael ei arestio mewn unrhyw ffordd – dw i’n siŵr y gall roi mwy o oleuni,” meddai.