Mae Prif Gwnstabl a Dirprwy Brif Gwnstabl Cleveland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr wedi cael eu gwahardd o’u gwaith ar ôl cael eu harestio gan dditectifs yn ymchwilio i honiadau o dwyll a llygredd.

Cafodd Sean Price a’i ddirprwy Derek Bonnard eu harestio ddoe ac aed â nhw i orsaf heddlu yng ngogledd Swydd Efrog i gael eu holi gan dditectifs neithiwr.

Fe gafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth heddiw.

Fe ddechreuodd yr ymchwiliad, sy’n cael ei arwain gan blismyn o Heddlu Swydd Warwick, ym mis Mai, yn dilyn honiadau yn erbyn aelodau presennol a chyn-aelodau Awdurdod Heddlu Cleveland.

“Gall yr awdurdod gadarnhau bod dau brif swyddog wedi cael eu gwahardd o’u swyddi gyda Heddlu Cleveland tra bydd yr ymchwiliadau’n cael eu hystyried,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdod.

“Dylid pwysleisio bod y gwaharddiad yn weithred niwtral ac ni ddylid dod i’r casgliad bod unrhyw beth wedi cael ei brofi yn erbyn y ddau swyddog.”