Amy Winehouse
Mae tad y gantores Amy Winehouse wedi galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi mewn canolfannau adsefydlu (rehab) er cof am ei ferch.

Roedd y gantores wedi brwydro â diod a chyffuriau cyn ei marwolaeth fis diwethaf.

Dywedodd Mitch Winehouse y dylai gwleidyddion wneud rhagor i sicrhau fod gwasanaethau gwell ar gael i bobol ifanc sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol.

“Nid yn unig mae hyn yn bwysig i fi, ond yn bwysig i’r wlad gyfan,” meddai.

Y llynedd fe gaeodd y Gwasanaeth Iechyd y  ganolfan arbenigol olaf oedd yn trin pobol ifanc oedd yn gaeth i gyffuriau.

Anogodd Mitch Winehouse y Gweinidog Trosedd James Brokenshire, a Keith Vaz, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Gwladol, i ystyried “ailddyrannu adnoddau”.

“Mae yna gannoedd o filoedd o bobol ifanc yn gaeth i gyffuriau heddiw er ei fod yn bosib osgoi hynny,” meddai  Mitch Winehouse.

“Rhain yw heddlu, doctoriaid  a chyfreithwyr y dyfodol ac maen nhw’n haeddu ein cymorth ni. Mae angen i ni allu helpu ein plant.”

Ar ôl cwrdd â Mitch Winehouse dywedodd Keith Vaz ei fod yn cytuno nad oedd y “gefnogaeth sydd ei angen yn bodoli ar hyn o bryd”.

“Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i drafod,” meddai. “Fe siaradodd o’r galon.”