Banc Lloegr
Fe fydd adferiad Prydain yn un ‘anwastad a thymhestlog’ rhybuddiodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol heddiw.

Dywedodd y gronfa fod yn rhai i weinidogion fod yn barod i newid eu polisi economaidd os nad yw twf yn cyflymu a chwyddiant yn syrthio fel y maen nhw’n ei obeithio.

Pwysleisiodd y gronfa unwaith eto eu bod nhw’n cytuno â strategaeth Llywodraeth San Steffan i leihau’r diffyg ariannol drwy godi trethi a thorri costau.

Ond rhybuddiodd y corff cyllidol fod “ansicrwydd mawr” a fyddai’r economi yn tyfu yn ddigon cyflym dros y blynyddoedd nesaf.

Maen nhw’n rhagweld mai dim ond 1.5% fydd yr economi yn tyfu eleni a 2.5% yn 2012 – yn is na rhagfynegiad y Swyddfa Ddarbodus ym mis Mawrth.

Os yw twf yn is na hynny bydd rhaid i’r llywodraeth ystyried newid polisi a thorri trethi er mwyn rhoi hwb pellach i’r economi, meddai’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Yn ogystal â hynny fe ddylai Banc Lloegr fod yn barod i godi cyfraddau llog o 0.5% os oes yna arwyddion fod chwyddiant yn codi y tu hwnt i reolaeth.

Mae disgwyl i chwyddiant aros uwchben 4% drwy gydol 2011 cyn gostwng i 2% erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, medden nhw.

‘Twf graddol’

Ar y llaw arall, os oedd twf yn well na’r disgwyl a chwyddiant yn gostwng o’i ben a’i bastwn ei hun dylid cymryd y cyfle i dorri’r diffyg ariannol ymhellach, medden nhw.

Dywedodd pennaeth Adran Ewropeaidd y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Ajai Chopra, y bydd twf yn araf ym Mhrydain am rai blynyddoedd eto.

“Rydyn ni’n disgwyl adferiad anwastad a thymhestlog ym Mhrydain… bydd twf yn cynyddu’n raddol i tua 2.5% bob blwyddyn.

“Ond mae ansicrwydd am brisiau, maint yr heriau ariannol sy’n wynebu’r wlad, a phroblemau ym mharth yr ewro wedi cymylu’n darlun,” meddai.

“Mae’n anodd iawn dewis y llwybr diogel dan y fath amgylchiadau.”