Hysbyseb Barclays
Mae banc Barclays wedi gweld cwymp o 33% mewn elw i £2.6 biliwn yn hanner cyntaf y flwyddyn.

Dywedodd y banc eu bod nhw wedi gorfod rhoi £1 biliwn o’r neilltu yn y chwe mis nes 30 Mehefin er mwyn talu iawndal i gwsmeriaid oedd wedi eu heffeithio gan y sgandal yswiriant diogelu taliadau.

Fel arall fe fyddai Barclays wedi gweld cynnydd o 24% mewn elw, i £3.7 biliwn – yn well nag oedd y Ddinas wedi ei ddisgwyl.

Dywedodd y cwmni fod cynnydd wedi bod yn nifer y cyfrifon morgeisi – o 913,000 i 925,000 – a chyfrifon banc – o 11.4 miliwn i 11.7 miliwn.

Roedden nhw eisoes wedi benthyg £20 biliwn i gwmnïau yn chwe mis cyntaf y flwyddyn, gan anelu at fenthyg £40 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn, medden nhw.

Bydd hynny’n plesio Llywodraeth San Steffan sydd wedi bod yn rhoi pwysau ar fanciau i fenthyca arian.

Datgelodd banc HSBC ddoe fod eu helw wedi cynyddu 3% i £7 biliwn yn chwe mis cyntaf y flwyddyn.