Mae canran uwch o yrwyr wedi eu dal yn yfed a gyrru ar ffyrdd Prydain eleni, yn ôl ffigyrau newydd gyhoeddwyd heddiw.

Cafodd 88,629 eu hatal gan yr heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon drwy gydol mis Mehefin.

Roedd 5,375 o’r rheini, neu 6.06%, wedi gwrthod neu fethu prawf anadl, o’i gymharu â 5.6% yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Mae’r ffigyrau yn datgelu fod 7.4% o yrwyr dan 25 oed wedi methu’r prawf, tra bod 5.8% o’r rheini dros 25 yn troseddu.

“Mae’n bryder fod gyrwyr ifanc yn parhau i yfed a gyrru ac fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â’r ymddygiad annerbyniol yma,” meddai’r Prif Gwnstabl, Phil Gormley.

Dywedodd llywydd cymdeithas moduro’r AA, Edmund King, eu bod nhw “wedi eu synnu a’u siomi fod rhagor o bobol wedi eu dal yn yfed a gyrru”.

“Y pryder pennaf yw bod cynnydd o 15% yn nifer y gyrwyr ifanc dros y cyfyngiad yfed a gyrru ers y llynedd,” meddai.