Mae banc HSBC wedi rhybuddio y gallai 30,000 o swyddi fynd erbyn 2013.

Mae’r cwmni yn y broses o dorri 5,000 o swyddi ond dywedodd y Prif Weithredwr Stuart Gulliver y bydd yna ddiswyddiadau pellach.

Ond mynnodd nad oedd y ffigwr 30,000 yn cynnwys cynlluniau’r banc i ehangu ymhellach yn y dyfodol.

Daw’r toriadau arfaethedig er gwaethaf canlyniadau gwell na’r disgwyl dros y chwe mis i fis Mehefin.

Roedd elw wedi gwella 3% i $11.5 biliwn (£7 biliwn), â changen HSBC yn Asia yn bennaf gyfrifol am hynny.

Mae disgwyl i Barclays, Lloyds Banking Group a Royal Bank of Scotland gyhoeddi gostyngiad mewn elw am y cyfnod dan sylw.

Elw ym Mhrydain

Cynyddodd elw HSBC 29% ym Mhrydain, i £843 miliwn. Mae ganddyn nhw 1,290 o ganghennau a 52,000 o staff yma.

Mae’r cwmni yn cyflogi tua 335,000 o bobol ledled y byd.

Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd HSBC Llandysul yn cau, a cyfrifon y casmeriaid yn cael eu symud i Gaerfyrddin.