Francis Maude
Llwyddodd Llywodraeth San Steffan i arbed £3.75 biliwn mewn llai na blwyddyn drwy dorri swyddi, canslo prosiectau a thynhau gwariant cyhoeddus, datgelwyd heddiw.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, ei fod yn “syfrdanol” faint o arian yr oedd y llywodraeth wedi llwyddo i’w arbed yn weddol rwydd.

Mynnodd fod yr arian wedi ei arbed heb dorri gwasanaethau ac y byddai yna ragor o doriadau o’r fath dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd fod y llywodraeth wedi gwneud llawer llai o ddefnydd o ymgynghorwyr, a bod gweision sifil wedi croesawu hynny, meddai.

“Roedd gweision sifil yn teimlo’n rhwystredig yn aml pan oedd ymgynghorwyr yn cael eu defnyddio,” meddai.

Dywedodd eu bod nhw hefyd wedi newid cynllun eu swyddfeydd gan arbed gwerth 70 cae pêl-droed o le.

Daw’r arbedion sydd wedi eu harchwilio’n annibynnol rhwng mis Mai 2010 a mis Mawrth eleni.

Gwastraff

Mis Chwefror diwethaf addawodd Francis Maude na fyddai yn gadael “yr un garreg heb ei throi” wrth dorri costau wrth galon y llywodraeth.

“Mae’r ffigyrau heddiw yn dangos fod ein targedau uchelgeisiol er mwyn torri gwastraff ac arbed arian wedi talu eu ffordd,” meddai.

“Fe fyddai £3.75 biliwn yn talu cyflogau 200,000 o nyrsys, neu 150,000 o athrawon. Mae’r arbedion yma, dros 10 mis yn unig, wedi caniatáu i adrannau achub swyddi yn y rheng flaen.

“Roedd biliynau o arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar adeiladau nad oedd eu hangen, ac ar hysbysebu gwaith y llywodraeth i’r trethdalwyr oedd yn talu amdanyn nhw.

“Dim ond y dechrau yw hyn ac rydyn ni’n benderfynol o ddileu rhagor o wastraff.”

Roedden nhw wedi torri 17,000 o swyddogion o’r gwasanaeth sifil, meddai. Roedd y rhan fwyaf o’r toriadau wedi eu cyflawni drwy beidio ag amnewid staff yn hytrach na’u diswyddo, meddai Francis Maude.

“Roedd ein gwasanaeth sifil wedi tyfu yn fawr iawn. Mae angen gwasanaeth sifil llai ond un sy’n fwy medrus.”