Ni fydd economi Prydain yn tyfu mor gyflym â’r disgwyl eleni, yn ôl grŵp busnes blaenllaw y wlad.
Mae’r CBI bellach yn rhagweld y bydd economi Prydain yn tyfu 1.3% yn unig drwy gydol 2011.
Ym mis Mai roedden nhw wedi rhagweld y byddai’r economi yn tyfu 1.7% – ar ôl dweud y byddai yn tyfu 1.8% ym mis Chwefror.
Maen nhw’n rhagweld y bydd yr economi yn tyfu 2.2% yn 2012.
Mae’r corff yn cynrychioli 240,000 o fusnesau sy’n cyflogi traean o weithwyr y sector breifat.
Dywedodd y CBI fod gan gwmnïau ddigon o arian i’w wario, ond maen nhw’n amharod i wneud hynny oherwydd pryderon ynglŷn â pharth yr ewro a dyled yr Unol Daleithiau.
Dywedodd y CBI y bydd yr economi yn tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, ac yna’n tyfu 0.5-0.6% bob chwarter nes diwedd 2012.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r economi barhau i dyfu yn raddol eleni a’r flwyddyn nesaf,” meddai John Cridland, cyfarwyddwr cyffredinol y CBI.
“Ni fydd yna adferiad cyflym ond fe fydd economi Prydain yn cyrraedd yno yn y pen draw.”
Mae’r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod economi Prydain wedi tyfu 0.2% yn unig yn ystod yr ail chwarter eleni.
Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi wfftio galwadau i arafu ei doriadau a buddsoddi rhagor o arian y llywodraeth yn yr economi.