Mochyn daear
Mae grwp ymgyrchu sydd eisoes wedi gorfodi llywodraeth Prydain i newid ei meddwl ynglyn â chynlluniau i werthu coedwigoedd, yn bwriadu rhwystro’r cynllun i ladd moch daear.

Fe gyhoeddodd llywodraeth San Steffan yn gynharach y mis hwn y byddai’n mynd yn ei blaen i gyhoeddi trwyddedau er mwyn saethu anifeiliaid gwyllt er mwyn trio cael gwared â TB mewn gwartheg.

Ond mae grwp ymgyrchu 38 Degrees, a lwyddodd i gael 532,000 o bobol i arwyddo deiseb i achub coedwigoedd yn gynharach eleni, wedi ymuno ag ymgyrch i rwystro lladd moch daear.

Dydi’r grwp ddim yn gwrthwynebu’r lladd yn union, ond mae’n cwestiynu ai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o daclu ymlediad TB ymysg gwartheg. Mae dros 13,000 o bobol wedi arwyddo deiseb arall gan y grwp yn ystod y dyddiau diwetha’.

“Mae 87% ohonon ni’n gytûn ar hyn: dydi cynlluniau’r llywodraeth i saethu moch daear Lloegr ddim yn gwneud synnwyr,” meddai’r ymgyrchwraig Marie Campbell ar ei blog.

“Mae gwyddonwyr y llywodraeth eu hunain yn rhybuddio na fydd hynny’n datrys y broblem o TB mewn gwartheg, ac maen nhw hyd yn oed yn dweud y gallai wneud y broblem yn waeth.”