William Hague - dim cyfiawnhad i weithredu Assad
Mae Ysgrifennydd Tramor gwledydd Prydain, William Hague, wedi condemnio ymosodiadau “brawychus” lluoedd Syria yn erbyn pobol gyffredin y wlad.

Fe ddaeth tanciau i ymosod ar ddinas Hama ychydig cyn toriad gwawr heddiw, gan gau i lawr ar y rhai sydd wedi bod yn protestio yn erbyn cyfundrefn yr Arlywydd Bashar Assad.

Mae trigolion Hama wedi tystio i weld cyrff meirw wedi eu gweld ar hyd y strydoedd, yn dilyn y saethu a’r bomio.

Daeth adroddiadau hefyd o gyrchoedd mewn dinasoedd yn ne Syria, ac ar gyrion dinas Damascus.

“Does yna ddim cyfiawnhad dros yr ymosodiadau hyn,” meddai William Hague heddiw. “Dw i’n galw ar yr Arlywydd Assad i roi’r gorau i ymosod ar ei bobol ei hun.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n warthus fod y lluoedd wedi ymosod ar Hama efo tanciau ac arfau trymion eraill, gan ladd dwsinau o bobol gyffredin sydd wedi bod yn protestio yn heddychlon.

“Mae’n ymddangos fod yr ymosodiad hwn yn rhan o ymdrech ar draws Syria i berswadio pobol i beidio protestio cyn Ramadan… Dylai’r Arlywydd Assad roi’r gorau i ymosod ar ei bobol ei hun, nawr.”