Fe fydd unrhyw un sy’n gwneud cais ar-lein am drwydded yrru o yfory ymlaen, yn gorfod ateb cwestiwn ynglyn â chyfrannu eu horganau.

Fe fydd y cwestiwn yn gwneud i ddarpar-yrwyr nodi p’un ai ydyn nhw am dorri eu henwau ar Gofrestr Rhoi Organau’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, neu adael y penderfyniad tan ddyddiad yn y dyfodol.

Y gobaith ydi y bydd y drefn hon gan y DVLA yn cynyddu nifer y bobol sy’n barod i roi organau a rhannau eraill o’u cyrff i helpu pobol eraill i fyw pe bydden nhw’u hunain farw.

Dan y drefn bresennol, mae ymgeiswyr am drwydded yn gallu anwybyddu’r cwestiwn. Ond fe fydd y drefn newydd yn gofyn iddyn nhw un ai roi eu henw ar y rhestr, neu ddweud nad ydyn nhw’n dymuno ateb y cwestiwn “ar hyn o bryd”.

Ar hyn o bryd, mae 29% o bobol gwledydd Prydain wedi’u cofrestru ar restr rhoi organau, ac mae yna tua 8,000 o bobol yng ngwledydd Prydain yn aros am drawsblaniad organ.