Mae uchel-swyddog gydag un o heddluoedd gwledydd Prydain wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plentyn, yn ôl llefarydd ar ran ei lu ei hun.

Mae’r Arolygydd Russell Dew o Heddlu Swydd Nottingham wedi ei gyhuddo o ddwy drosedd o gael rhyw â phlentyn, a’r rheiny, yn honedig wedi digwydd yn Newark yn yr un sir yng nghwrs y flwyddyn ddiwetha’.

Fe gafodd yr Arolygydd, sy’n 44 mlwydd oed, ei arestio ddydd Iau.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Sheffield fory, yn ôl Heddlu Swydd Nottingham.