Mae tua un o bob tair trosedd sy’n cael ei riportio i’r heddlu yn mynd heb ei hymchwilio.

Mae ymchwiliad gan bapur newydd The Times yn dangos fod tua hanner y lluoedd yng Nghymru a Lloegr yn gollwng 32% o’r achosion sy’n cael eu cyfeirio i’w sylw.

Mae Heddlu Llundain heddiw wedi cadarnhau fod y ffigwr yn uwch ym mhrifddinas Lloegr – gyda thua 44% o droseddau yn cael eu “sgrinio allan” o ymholiadau pellach. Allan o gyfanswm o 824,495 o droseddau yn y flwyddyn 2010, cafodd 463,315 eu hymchwilio, a 361,180 eu “sgrinio allan”.

Yn ôl adroddiad The Times, ni chafodd 650,000 o droseddau eu hymchwilio, allan o gyfanswm o dros ddwy filiwn o droseddau yn 21 o heddluoedd Cymru a Lloegr. Fe gawson nhw’r ystadegau trwy wneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Y gred ydi bod achosion yn ymwneud â bwrgleriaeth a difrodi troseddol yn fwy tebygol o gael eu gollwng, oherwydd fod swyddogion yn credu bod llai o siawns y byddan nhw’n dal y drwgweithredwyr.