David Miliband - ei berthynas gyda'i frawd wedi bod dan straen wedi ras yr arweinyddiaeth
Mae brawd mawr arweinydd y blaid Lafur wedi cytuno i weithredu ar ran y blaid am y tro cyntaf ers iddo golli’r etholiad am yr arweinyddiaeth i’w frawd bach.

Yn dilyn trafodaethau rhwng y ddau frawd, Ed a David Miliband, mae David, y brawd hynaf, wedi cytuno i ymweld â phrifysgolion gwledydd Prydain ar ran y blaid sy’n wrthblaid yn San Steffan.

Fe fydd David Miliband yn cynnal sesiynau holi ac ateb mewn mwy na 20 o golegau dros y flwyddyn nesa’ – dyma’r cam cyntaf ar y daith, meddai rhai, yn ôl i fyd gwleidyddiaeth.

“Mae pobol ifanc yn wynebu gweld llywodraeth sy’n chwalu pob cyfle ac yn tanseilio eu huchelgais,” meddai David Miliband. “Dw i’n edrych ymlaen at helpu Ed i osod sylfeini ar gyfer llwyddiant yn yr etholiad cyffredinol nesa’. Gwrando ar fyfyrwyr fydda’ i, ac yn eu hannog nhw i weld y blaid Lafur fel gwir lais Prydain yn yr amseroedd anodd hyn.

“Dw i’n gwybod y gallwn ni wneud gwahaniaeth ar gampysau Prydain, ac fe allwn ni brofi fod y blaid Lafur yn cynrychioli delfrydau pobol ifanc uchelgeisiol,” meddai wedyn. “Rydan ni’n gwybod eu bod nhw eisiau gwell safon byw iddyn nhw’u hunain ac i’w cymunedau.”