Cwch pysgota
Fe gafodd tri physgotwr eu hachub y bore yma, wedi i’w cwch droi drosodd a boddi yn y Sianel.

Yn ôl gwylwyr y glannau, roedd y dynion yn “lwcus i fod yn fyw” wedi iddyn nhw gael eu taflu i’r dwr, a nhwthau heb siacedi diogelwch. Roedd eu cwch yn teithio ar dipyn o gyflymder cyn iddo droi drosodd a boddi ger Seaton, dwyrain Dyfnaint. Roedd y tri physgotwr wedi gadael eu siacedi diogelwch gartref.

“Maen nhw’n lwcus iawn I fod yn fyw ar ôl gwneud camgymeriad mor elfennol â gadael eu siacedi diogelwch gartref,” meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Portland.

“Doedd ganddyn nhw ddim un ffordd o gysylltu efo’r tir mawr chwaith, oni bai am eu ffonau symudol, ond dydi’r rheiny’n dda i ddim pan maen nhw’n wlyb. Maen nhw’n gallu syrthio allan o boced yn rhwydd, a dydi’r signal ddim yn ddibynadwy iawn allan ar y môr.”

Chafodd yr un o’r tri niwed yn ystod y digwyddiad, ac mae disgwyl y bydd eu cwch yn cael ei achub o’r dwr yn ddiweddarach heddiw.