Ed Miliband
Fe fu arweinydd Llafur, Ed Miliband, mewn rhesaid o bartïon wedi eu trefnu gan gwmni News International, ac mae wedi cynnal cyfarfodydd gyda chyn-Brif Weithredwraig y cwmni, Rebekah Brooks, yn ôl cofnodion sy’n cael eu rhyddhau heddiw.

Fe gafodd Mr Miliband hefyd nifer o gyfarfodydd gyda golygyddion papurau’r News of the World a The Sun, meddai Llafur.

Fe gyfarfyddodd Miliband â Brooks ar Fedi 15 am “sgwrs gyffredinol”. Roedd golygydd The Sun, Dominic Mohan, hefyd yn y cyfarfod hwnnw yn Llundain, ond fe gynhaliodd ei drafodaethau ei hun gydag Ed Miliband ym mis Chwefror eleni, yn ogystal ag yn ystod cynhadledd Llafur hydref diwethaf.

Fe fu Ed Miliband ym mharti haf News International yn 2010 ac eleni, yn ogystal ag ym mharti’r cwmni yn ystod cynhadledd Llafur.