Heddlu wedi eu galw yn oriau mân y bore
Mae dyn wedi ei ladd ar ôl cael ei daro gan “sawl cerbyd” ar draffordd yn Lloegr heddiw.

Fe riportwyd y digwyddiad ger cyffordd 8 ar y lonydd sy’n mynd i gyfeiriad Llundain ar draffordd yr M20 ger Maidstone yng Nghaint.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Caint wedi cadarnhau fod uned ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol, ynghyd â thim casglu cyrff, wedi eu hanfon i’r fan tua hanner awr wedi hanner nos.

Mae disgwyl i’r draffordd gael ei hail-agor yn ddiweddarach heddiw.