Mae landlord Joanna Yates wedi ennill iawndal sylweddol gan wyth papur newydd yn sgil honiadau a wnaed yn ei erbyn adeg yr ymchwiliad i’w llofruddiaeth.

  Doedd y cyn-brifathro Christopher Jeffries ddim yn yr Uchel Lys yn Llundain er mwyn clywed canlyniad yr achos yn erbyn cyhoeddwyr y Sun, y Daily Mirror, y Sunday Mirror, y Daily Mail, y Daily Record, y Daily Express, y Daily Star a’r Scotsman. Ond dywedodd ei gyfreithiwr, Louis Charalambous, wrth yr Ustus Tugendhat fod pob un o’r cyhoeddiadau wedi cytuno i ymddiheuro am yr honiadau “hynod ddifrïol” a wnaed amdano yn dilyn marwolaeth Joanna Yates yn 2010, ac i roi iawndal sylweddol iddo.

Yn ôl y cyfreithiwr, roedd y papurau newydd yn cydnabod anwiredd llwyr yr honiadau a gynhwyswyd mewn dros 40 erthygl rhwng Rhagfyr 2010 a Ionawr 2011.

Tra’n siarad tu allan i’r llys, dywedodd fod “Christopher Jefferies yn un o ddioddefwyr diweddaraf elfennau gwaethaf y tabloids Peydienig.

“Mae llawer o’r straeon hyn wedi eu llunio i greu ‘bwystfil’ o’r unigolyn, heb unrhyw ystyriaeth o’i enw da, ei breifatrwydd a’i hawl i achos teg.”

Cafodd Christopher Jeffries ei arestio ar 30 Rhagfyr 2010 ar amheuaeth o ladd Joanna Yates – ond cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddeuddydd yn ddiweddarach, cyn i’r achos yn ei erbyn gael ei ollwng yn gyfan gwbwl.

Arestiwydd y gŵr 33 oed o’r Iseldiroedd, Vincent Tanak, yn ddiweddarach, ac mae e bellach wedi pledio’n euog o ddynladdiad, ond yn ddieuog o ladd. Mae disgwyl i Vincent Tabak, oedd yn gymydog i Joanna Yates, ymddangos yn Llys y Goron Bryste ym mis Hydref.