Mae corach wnaeth actio yn y ffilmiau Star Wars a Harry Potter wedi osgoi cyfnod dan glo yn y carchar am weithred anweddus gyhoeddus o flaen dynes ifanc ar drên.

Cafodd y cyn-seren pantomeim Nicholas Read, oedd wedi actio rhan un o’r Ewoks yn y ffilm Return of the Jedi, gyfnod o 20 wythnos dan glo wedi’i ohirio ar ôl i’r Barnwr ddatgan mai dyma fyddai’r ffordd orau o gael y corrach i newid ei ffyrdd.

Cafwyd Read, o Wade Close yn Cheadle, de Staffordshire, yn euog o ymddwyn yn anweddus wedi i ferch 17 oed ddweud wrth Llys y Goron Caerlŷr ei fod wedi cyflawni gweithred rywiol dan fantell ei het jyglo.