Rupert Murdoch ar y chwith
Mae’r comedïwr a daflodd blatiaid o ewyn eillio at Rupert Murdoch wedi cael ei gyhuddo o ymosod a harasio, achosi braw neu bryder.

Ymosododd Jonathan May-Bowles, 26, o Erddi Caeredin, Windsor, ar Murdoch wrth i’r dyn papurau newydd 80 oed roi tystiolaeth ynglŷn â’r sgandal hacio ffonau mewn gwrandawiad o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chawaraeon Tŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf.

Cyfaddefodd y comedïwr, sy’n galw’i hun yn Jonnie Marbles, i’r drosedd wrth ymdangos o flaen Llys Ynadon San Steffan heddiw.