James Murdoch (Esther Dyson)
Mae’r Aelod Seneddol Tom Watson wedi galw am ddwyn pennaeth News International yn ôl o flaen pwyllgor dethol, a hynny yn ystod gwyliau’r Senedd.

Mae’n dweud fod tystiolaeth James Murdoch i’r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant bellach yn cael ei groes-ddweud gan olygydd a swyddog cyfreithiol y News of the World.

Roedd Murdoch wedi dweud wrth yr aelodau seneddol nad oedd neb wedi tynnu ei sylw at faint y broblem gyda hacio i flychau neges ffonau symudol gan newyddiadurwyr y papur.

Ond fe wnaeth golygydd ola’r papur, Colin Myler, a’r cyn swyddog cyfreithiol Tom Crone ddatganiad yn mynnu eu bod nhw wedi tynnu sylw James Murdoch at e-bost yn datgelu maint yr hacio.

Daw galwad Tom Watson ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod rhif ffôn symudol Sara Payne, mam merch a gafodd ei llofruddio, ar restr hacio’r ditectif preifat oedd yn gweithio i’r News of the World.

Os yw’r stori’n wir, yNews of the World oedd wedi rhoi’r ffôn i Sara Payne yn rhan o ymgyrch i’w chefnogi.