Ken Clarke - cytuno gyda'r adroddiad
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke, yn dweud ei fod yn cytuno gydag adroddiad newydd sy’n condemnio’r holl amser y mae swyddogion prawf yn ei dreulio ar waith papur.

Yn ôl y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder yn Nhŷ’r Cyffredin, dim ond chwarter amser swyddogion o’r fath sy’n cael ei dreulio gyda throseddwyr.

Roedd hynny’n “syfrdanol”, meddai Ken Clarke wrth y BBC, gan ddweud ei fod eisoes wedi dechrau gweithredu i dorri gwaith gweinyddol swyddogion prawf ac i gael gwared ar ddiwylliant o dargedau a llenwi ffurflenni.

“Mae’r diwylliant ticio bocsys yn wirion,” meddai. “Mae hyn yn mynd yn ôl i’r system reoli ddiffygiol yr ’yn ni’n cael gwared arni.”

Roedd y Pwyllgor wedi condemnio’r drefn fel y mae gan alw am adolygiad allanol o’r System Genedlaethol ar gyfer Rheoli Troseddwyr a oedd wedi ei sefydlu gan y Llywodraeth Lafur ac sydd, medden nhw, wedi methu â chreu dulliau mwy cynhwysfawr o drin troseddwyr.

Casgliadau eraill

Fe wnaeth  pwyllgor nifer o argymhellion eraill:

  • Maen nhw’n derbyn bod sgôp yn syniadau’r Llywodraeth i ddod â chyrff preifat i mewn i’r system brawf ond yn mynnu bod angen rheolaeth gyhoeddus hefyd.
  • Maen nhw’n pryderu y bydd cynlluniau’r Llywodraeth i dalu yn ôl canlyniadau yn y maes prawf yn gwahanu’r system oddi wrth weddill y drefn gyfiawnder. Mae’r Pwyllgor yn dweud bod angen cynllunio ar y cyd ar gyfer llefydd mewn carchardai, llefydd prawf a llefydd cyffuriau.
  • Yn ôl yr adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae angen i wleidyddion, barnwyr ac ynadon fod yn ddewr a chefnogi’r syniad o ddedfrydau cymunedol.

Meddai’r Cadeirydd

“Dyw pobl ddim yn deall bod dedfrydau prawf yn llawer mwy o her i lawer o droseddwyr nag yw tymhorau cymharol fyr yn y carchar,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Syr Alan Beith.

“Mae dedfryd brawf yn her oherwydd ei bod yn eu gorfodi i feddwl eto am eu ffordd o fyw a dechrau ei newid.”