Stadiwm Gemau Olympaidd Llundain
Blwyddyn union cyn dechrau swyddogol y Gemau Olympaidd 2012 mae cadeirydd y gemau wedi rhybuddio fod “mynydd o waith” i’w wneud o hyd.

Dywedodd Seb Coe fod paratoadau’r brifddinas wedi glynu at yr amserlen wreiddiol ond na ddylen nhw orffwys ar eu rhwyfau eto.

Bydd sawl digwyddiad yn cael ei gynnal heddiw er mwyn nodi 12 mis nes y gemau, gan gynnwys datgelu’r pwll nofio Olympaidd a chynllun medalau enillwyr y cystadlaethau.

Sawl clwyd i’w croesi

“Mae’n gyfnod pwysig i ni,” meddai’r Arglwydd Coe. “Mae’r Parc Olympaidd bron a bod wedi ei orffen, ond mae angen mynydd o waith i’w paratoi nhw ar gyfer yr agoriad swyddogol.”

Ychwanegodd fod “tystiolaeth go iawn” fod y cyhoedd eisoes wedi dechrau edrych ymlaen at y gemau.

“Roedd dwy filiwn o bobol wedi gwneud cais am 23 miliwn o docynnau. Mae hynny’n torri pob record am unrhyw ddigwyddiad chwaraeon ar y blaned.

“Mae 250,000 o bobol wedi gwneud cais i wirfoddoli hefyd. Mae pobol ar draws y wlad yn edrych ymlaen at weld y ffagl Olympaidd yn mynd heibio.”

Dywedodd ei fod yn croesi bysedd y byddai athletwyr Prydain yn gallu ennill mwy o fedalau nag yn Beijing pedair blynedd ynghynt.

“Mae’n anodd cymryd rhan mewn Gemau Olympaidd gartref a pheidio cael dy arswydo gan hynny,” meddai.

“Fe fydd yna lawer iawn o bwysau ar y bobol yma.”