Amy Winehouse
Dim ond teulu a ffrindiau agos fydd yn bresennol yn angladd Amy Winehouse heddiw.

Daw’r seremoni wedi i’r heddlu ddatgelu y bydd yn rhaid iddyn nhw aros hyd at fis am ganlyniadau profion tocsicoleg er mwyn darganfod yn union beth achosodd marwolaeth y gantores 27 oed ddydd Sadwrn.

Doedd dim casgliad pendant yn dilyn yr archwiliad post-mortem i’w marwolaeth.

Ddoe, bu rhieni’r gantores fyd-enwog yn ymweld â’r fflat lle y bu hi farw er mwyn gweld y teyrngedau sydd wedi eu gadael yno.

Daethpwyd o hyd i’w chorff yn y fflat yn Camden, Gogledd Llundain, tua chwe awr ar ôl ei marwolaeth.

Roedd Mitch a Janis Winehouse yn crio wrth edrych dros y blodau, canhwyllau, teganau, a hyd yn oed bocsys sigaréts a diodydd alcohol a adawyd wrth ymyl cortyn yr heddlu o gwmpas tŷ’r gantores.

Dywedodd tad Amy Winehouse, a hedfanodd yn ôl o Efrog Newydd wedi iddo glywed am farwolaeth ei ferch, fod yr holl deyrngedau yn help mawr iddyn nhw wrth ymdopi â’u colled.

“Mae hyn yn golygu llawr iawn i ni – mae’n gwneud pethau yn haws,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu y bydd yr angladd, sy’n rhaid ei gynnal mor gyflym â phosib dan gyfraith Iddewig, yn “fater i’r teulu a ffrindiau agos.”

Mae union leoliad ac amser yr angladd wedi ei gadw’n gyfrinach.