Bydd ystadegwyr yn bwrw ymlaen â chynlluniau i fesur hapusrwydd yn Ynysoedd Prydain.

Roedd ymgynghoriad ar gynnig David Cameron i greu Indecs Hapusrwydd ar gyfer y wlad wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan y cyhoedd.

Ymatebodd dros 34,000 o bobol i’r cynnig gan y Prif Weinidog ym mis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd fod angen i’r llywodraeth wybod pa mor hapus yw pobol yn ogystal â sut mae economi’r wlad yn dod ymlaen.

E fydd hapusrwydd yn cael ei fesur ochr yn ochor â Chynnyrch Domestig Gros er mwyn mesur a ydi’r llywodraeth yn llwyddo i wneud Prydain yn lle gwell i fyw.

Dywedodd yr ystadegwr cenedlaethol Jil Matheson fod pobol yn “awyddus iawn” i roi eu barn ar beth sy’n gwneud bywyd yn well.

Mae iechyd, teulu, cyfeillion a boddhad mewn swydd – yn ogystal ag arian, wrth gwrs – yn allweddol er mwyn gwneud pobol yn hapus, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r swyddfa yn bwriadu cyhoeddi’r ystadegau cyntaf am hapusrwydd y genedl yn yr hydref, ac adroddiad bob blwyddyn wedyn.

Fe fyddwn nhw’n gofyn i 200,000 o bobol roi marc allan o ddeg i’w bywydau.

“Fy nod i wrth fynd i mewn i wleidyddiaeth oedd yn gwneud bywydau pobol yn well,” meddai David Cameron.

“Dyw arian ar ei ben ei hun ddim yn ddigon i wneud bywydau pobol yn well.

“Rhaid cymryd camau ymarferol i sicrhau bod y llywodraeth yn canolbwyntio ar safon bywydau pobol yn ogystal â thwf economaidd, a dyna ydyn ni’n gobeithio ei wneud.”