Llun tywyll - yr unig beth sydd ar wefan y gantores heddiw
Roedd yna gynnydd anferth yng ngwerthiant caneuon y gantores Amy Winehouse ar ôl y newyddion ei bod wedi marw’n sydyn, yn ddim ond 27 oed.

Mae ei halbwm enwoca’, Back to Black, yn ôl yn y siartiau ac fe gynyddodd gwerthiant traciau unigol o gymaint â 23 gwaith.

Heddiw, fe gyhoeddodd teulu’r gantores ddatganiad yn mynegi eu colled. Yn ôl ei rhieni, roedd marwolaeth eu merch wedi “gadael bwlch mawr” yn eu bywydau.

“R’yn ni’n dod at ein gilydd er mwyn ei chofio hi,” medden nhw, gan apelio am lonydd gan y wasg a’r cyfryngau.

Teyrngedau

Mae rhai o sêr y byd roc hefyd wedi talu teyrngedau iddi ac mae blodau a negeseuon wedi’u gadael y tu allan i’w fflat yn Camden yn Llundain, lle daethpwyd o hyd i’w chorff tua phedwar brynhawn ddoe.

Mae’r heddlu wedi gwrthod trafod a oedd gan alcohol neu gyffuriau ran yn ei marwolaeth ac roedden nhw’n dweud na fyddai archwiliad post mortem yn cael ei drefnu tan fory ar y cynhara’.

Roedd y gantores wedi cael problemau gyda chamddefnydd o alcohol a chyffuriau ers iddi ddod yn enwog ac fe fu’n rhaid iddi ganslo taith o gigiau ar ôl gwneud llanast llwyr o rai ohonyn nhw.