Vince Cable
Mae ychydig “wallgofiaid asgell dde” yn America yn achosi mwy o beryg i economi’r byd na thrafferthion yr Ewro, meddai’r Gweinidog Busnes, Vince Cable.

Trwy wrthod cynlluniau’r Arlywydd Obama i godi trothwy dyledion yr Unol Daleithiau, roedd lleiafrif bach yn y Gyngres yn Washington yn creu bygythiad mawr, meddai.

Ac wrth siarad ar raglen deledu ar y BBC, fe ddywedodd y gallai Llywodraeth Prydain orfod argraffu rhagor o arian er mwyn llacio’r pwysau ar yr economi Prydeinig.

Doedd yr economi ddim mewn cyflwr da, meddai’r Democrat Rhyddfrydol, gan roi’r bai ar y sefyllfa yr oedd Llywodraeth y Glymblaid wedi’i hetifeddu.

Ond fyddai yna ddim llacio yn y toriadau ar wario cyhoeddus, meddai, er gwaetha’r disgwyl y bydd ffigurau economaidd yr wythnos nesa’ yma’n dangos bod yr adferiad yn cloffi.

‘Cwestiynau mawr am Murdoch’

Mewn sylwadau dadleuol hefyd fe ddywedodd Vince Cable bod “cwestiynau mawr” i’w gofyn yngl᝵n ag addasrwydd Rupert Murdoch a’i gwmnïau i fod yn berchen ar ddarlledwr Prydeinig fel BSkyB.

Ddylai neb eto gael yr hawl i fod â’r un math o rym ag sydd gan Rupert Murdoch, meddai.