Amy Winehouse
Mae enwogion wedi bod yn talu teyrnged i’r gantores Amy Winehouse wedi i’w chorff gael ei ddarganfod yn ei fflat.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd i’r ferch 27 oed yn ei chartref yng ngogledd Llundain toc cyn 4pm brynhawn Sadwrn.

Mae’r heddlu yn dweud eu bod ar hyn o bryd yn ystyried ei marwolaeth yn un heb eglurhad.

Teyrngedau

Dywedodd y DJ Fearne Cotton ar Twitter nad oedd hi “yn gallu credu’r newyddion. Roedd Amy yn ferch arbennig. Dyma’r newyddion tristaf”.

Meddai’r gantores Myleene Klass: “Roedd Amy Winehouse yn dalent arbennig ac yn ferch hyfryd.”

“Am wastraff o dalent arbennig,” meddai Phillip Schofield. “Cydymdeimladau â’i theulu.”

Ymddangosodd y gantores o flaen cynulleidfa am y tro olaf ddydd Mercher, pan ymunodd ar y llwyfan gyda’i merch-bedydd Dionne Bromfieldyn y Roundhouse yn Camden.

Canslo gigs

Roedd hi wedi canslo cyfres o gigs fis diwethaf ar ôl nifer o berfformiadau di-drefn.

Mae hi wedi dioddef o broblemau yn ymwneud â diod a chyffuriau drwy gydol ei gyrfa.