Mae cwmni Prydeinig wedi datgelu’r cysylltiad band llydan cyflymaf yn y byd.

Tua 6mbps yw cyflymder cyfartalog band llydan ym Mhrydain – a llai na hynny hyd yn oed mewn sawl rhan o Gymru.

Ond mae Virgin wedi datgelu cysylltiad band llydan 1.5gps –sydd 250 gwaith yn gyflymach.

Cafodd y datblygiad ei ddatgelu i’r wasg yn TechHub ynghanol Llundain.

Dywedodd Virgin ei fod yn seiliedig ar yr un dechnoleg opteg ffibr y maen nhw’n ei ddefnyddio er mwyn darparu cysylltiadau band eang i’w cwsmeriaid cyffredin.

“Mae pobol yn cysylltu mwy a mwy o ddyfeisiau i’r we ac yn gwneud mwy ar-lein nag erioed o’r blaen,” meddai Jon James, cyfarwyddwr gweithredol band eang Virgin.

“Bydd Virgin yn arwain y ffordd wrth i wasanaethau newydd a rhaglenni sy’n defnyddio band eang ddod ar-lein.”

Y gobaith yw y bydd band llydan cyflymach yn caniatáu i ddoctoriaid teulu allu gweld cleifion mewn manylder uchel o bellter.

Byddai hefyd yn arwain at newid mawr ym myd teledu – gan ganiatáu i bobol lawr lwytho ffilmiau cyfan mewn eiliadau.