Alize Mounter
Mae merch o Bontypridd sy’n siarad Cymraeg wedi ei choroni yn Miss Lloegr – wedi cystadleuaeth i ddod o hyd i’r ferch dlysaf y wlad.

Bydd Alize Mounter yn cynrychioli’r wlad yng nghystadleuaeth Miss World sydd i’w gynnal yn ddiweddarach eleni.

Cipiodd y fyfyrwraig 22 oed o Beddau ger Pontypridd y teitl o afael 63 ymgeisydd arall, o flaen cynulleidfa o 600 yng ngwesty’r Hilton Metropole yn Llundain.

Cafodd y Gymraes y marciau uchaf gan feirniaid ar draws tri rownd – modeli gwisg chwaraeon, gwisg nos, a gwisg coch a gwyn ‘cenedlaethol’ wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae Alize Mounter yn byw yn Kensington ar hyn o bryd, ond er ei hawydd i hyrwyddo Lloegr ar draws y byd, cafodd ei geni a’i magu yng Nghymru i dad o Brydain a mam o Hwngari, a mynd i Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.

Ers hynny, mae hawl ganddi gystadlu ar ran Lloegr oherwydd rheolau preswylio.


Y cystadleuwyr eraill

Cystadlu â Chymru

Yn y gorffennol, mae hi wedi dod yn drydydd  yng nghystadleuaeth Miss Bydysawd y Deyrnas Unedig, ac roedd hi yn rownd derfynol Miss Cymru y llynedd, ar ôl cael ei choroni yn Miss Rhondda Cynon Taf.

Roedd y flonden 5”11 hefyd yn gystadleuydd ar gyfres reialiti Britain’s Next Top Model.

Mae hi wedi modeli ar gyfer cwmni Americanaidd Abercrombie and Fitch, ac ar gyfer y cynllunydd o Gymru, Julien Macdonald, pan oedd yn lansio’i gagliad atodion yn siop Debenhams, Caerdydd.

Mae Alize Mounter yn siarad Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg, mae’n ddawnswraig dalentog, mae’n ffotograffydd ac mae’n hoffi rhedeg, gyda’r gobaith o gystadlu yn Marathon Llundain cyn hir.

Ar hyn o bryd mae’n astudio newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Roehampton.

Bydd hi’n mynd ymlaen i gystadleuaeth Miss World nesaf, sydd i’w gynnal yn Llundain ar 6 Tachwedd. Yno, fe fydd hi’n dod ben ben ag ymgeisydd Miss Cymru, Sara Manchipp.

Hwn fydd y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ym Mhrydain ers degawdau, a hwn fydd y tro cyntaf iddo gael ei ddangos ar deledu cyffredin.